Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2017
Amser:
08.30 - 09.15
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Rhun ap Iorwerth AC Paul Davies AC David J Rowlands AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Sharon Bounds, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Bydd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn gwneud datganiad am Chwaraeon Cymru (45
munud)
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ynghylch Cymunedau Cryf – Camau Nesaf (45 munud)
Mynegodd David Rowlands siom nad oedd y pleidiau eraill wedi dod at grŵp UKIP i gyd-gyflwyno'r cynnig ar forlynnoedd llanw ar gyfer y ddadl ddydd Mawrth, a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr.
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
Esboniodd Jane Hutt y bydd y Prif Weinidog yn mynd ar ymweliad ag UDA ddydd Mawrth 28 Chwefror ac na fyddai'n bresennol yn y Cyfarfod Llawn i ateb cwestiynau'r wythnos honno. Bydd Jane Hutt yn ateb cwestiynau yn ei le. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes gytuno ar ddull cyson ynghylch pa Aelodau a fyddai'n holi cwestiynau i Arweinydd y Tŷ yn ystod Cwestiynau'r Arweinwyr.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 15 Mawrth 2017 -
· Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ynghylch Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Diddymu'r Hawl i Brynu (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer trafodaeth Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan un o'r cyfarfodydd yn y dyfodol, i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur yn nodi'r cynigion, a bennwyd gan y Cynulliad a swyddogion y Llywodraeth, i ddiwygio prosesau cyfredol y gyllideb yn unol â'r argymhellion a wnaed yn sgil ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid blaenorol i arferion gorau o ran y gyllideb.
Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor â'r model a
drafodwyd gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad a Llywodraeth Cymru,
gan gynnwys faint o amser sydd ar gael i graffu ar y gyllideb, a'r
rhaniad rhwng cynigion amlinellol a manwl y gyllideb.
Gofynnodd y Pwyllgor am ragor o fanylion am sut y byddai'r ddadl ynghylch y gyllideb ddrafft yn gweithio'n ymarferol pe bai'n dilyn cynnig gan y Pwyllgor Cyllid, cyn cytuno ar ddull a ffefrir yn y Rheolau Sefydlog.
Nododd y Rheolwyr Busnes yr awgrym yn yr adroddiad arferion gorau i gydnabod y cysylltiad rhwng cymeradwyo penderfyniadau treth a chymeradwyo cynlluniau cyllideb o fewn y Rheolau Sefydlog, a chytunwyd nad oes angen ysgrifennu unrhyw ddibyniaeth yn y Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd, cyn datganoli treth incwm.
Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno cynigion ar gyfer diwygio'r Rheolau Sefydlog i'r Rheolwyr Busnes eu cymryd yn ôl i'w grwpiau, ac ymgynghori â'r Pwyllgor Cyllid arnynt.
Ar ôl cytuno mewn egwyddor i gyflwyno gweithdrefn newydd i'r Aelodau holi cwestiynau amserol i'r Prif Weinidog ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn y Cyfarfod Llawn, trafododd y Rheolwyr Busnes gynnig manwl ar gyfer gweithdrefn o'r fath.
Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater gyda'u grwpiau, a dychwelyd at hyn ar 7 Mawrth.
Nododd y Pwyllgor lythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cadarnhau bod y Pwyllgor yn bwriadu edrych yn fanylach ar gyfundrefnu cyfraith Cymru ac mai cam cyntaf y Pwyllgor fyddai cymryd tystiolaeth ar gyfundrefnu gan y Cwnsler Cyffredinol.